Pam bod taflu geiriau Saesneg i mewn i’r Gymraeg mor niweidiol? – Y ddadl yn erbyn bratiaith, Rhan 3

Creda ambell un bod angen i ni dderbyn bod bratiaith yn rhan annatod o’r Gymru fodern, a nad oes unrhyw beth o’i le yn ei ddefnydd. Ond pa argraff y mae hyn yn ei roi i bobl sydd ddim yn ei siarad? Mae’n rhoi’r argraff nad ydym ni’n parchu’r iaith ddigon i’w siarad yn iawn, a bod angen cymorth gan eiriau iaith arall, Saesneg, er mwyn gwneud y Gymraeg yn iaith gyflawn a chredadwy.

Mae diogrwydd wrth ddefnydd cymdeithasol yr iaith yn niweidiol iddi. Os yw pobl yn siarad iaith fratiog sy’n llawn geiriau Saesneg yn yr ysgol, yn y gweithle neu yn y dafarn, yna’r neges y mae hyn yn ei roi i ddarpar ddysgwyr, a siaradwyr Cymraeg sy’n dewis peidio â’i ddefnyddio, yw “os dydyn nhw ddim yn parchu eu hiaith, pam y dylaf innau?”. Credaf yn sicr bod lleihad yn ein parch tuag at yr iaith yn ei gwneud hi’n llai apelgar i bobl benderfynu dysgu ei siarad. A phwy wela fai arnynt am feddwl hyn? Mae’n hynod bwysig ein bod ni fel Cymry Cymraeg yn dangos esiampl i’n cyfoedion, drwy gael gwared â chyn gymaint o eiriau Saesneg o’r iaith â sy’n rhesymol i ni ei wneud.

Gellid trin geirfa Cymraeg unigolyn yr un peth â’r niferoedd o siaradwyr Cymraeg sydd yn y wlad – achos mae un fel microcosm o’r llall. Mae rhoi un gair Saesneg yng nghanol eich geirfa gyfystyr â rhoi un person di-Gymraeg (â dim bwriad o ddysgu) mewn ardal o siaradwyr Cymraeg – mae’r ddau yr un mor niweidiol â’i gilydd.

Gwrandewch ar eich hunain yn siarad, a gofynwch i chi’ch hunain os yw’r ffordd yr ydych chi’n siarad Cymraeg (nid y ffaith eich bod chi’n ei siarad) yn fuddiol i’r iaith ynteu’n niweidiol iddi.

Google Translate – i ba iaith y byddech chi’n cyfieithu iddi?

Wrth gyfieithu o ryw iaith dramor, tybiaf fod y rhan fwyaf ohonoch yn dewis Saesneg fel iaith i gyfieithu iddi. Pam? Faint o ddefnyddwyr Google Translate sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth i gyfieithu i’r Gymraeg?

Efallai bod rhai pobl yn anwybyddu’r elfen Gymraeg o ran pryder am gywirdeb y cyfieithiadau. Mae’n wir dweud bod Google Translate wedi bod â thipyn o enw drwg yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd ynfydion mewn cwmnïau di-Gymraeg yn ei ddefnyddio i gyfieithu arwyddion a hysbysiadau cyhoeddus. Ond, ai bai Google Translate yw hynny?  Be am i ni ddod at ein gilydd a gwella’r gwasanaeth? Mae Google bellach yn cynnig y gallu i’r gymuned gynnig cywiriadau i gyfieithiadau. Gweler isod – drwy glicio ar y botwm Wrong? cewch gyfle i deipio cywiriad i mewn.

Google Translate

Mae’n bwysig ein bod ni’n cyfrannu yn y modd yma, ac nid meddwl mai cyrifoldeb rhywun aral ydyw i wneud hynny.

Enwi’ch plant – peidiwch â phlygu i ofynion y di-Gymraeg

Mae dewis enwau i’n plant yn rhywbeth cyffrous, ac mae’n debyg bod gan bob cwpl eu rhestr o amodau i’r perwyl hwn, e.e. dewis enw Cymraeg, osgoi enwau sydd yr un peth â phlant eu ffrindiau, osgoi enwau sydd rhy hen ffasiwn, a.y.b. Ond yn ychwanegol i’r rhestr yma, tybiwn fod nifer fawr o bobl fydd yn osgoi enwau sy’n swnio fel rhyw air Saesneg arall, hefyd osgoi enwau y buasai’n rhy anodd i bobl di-Gymraeg ei ynganu. Mae’n debyg bod rhieni yn gwneud hyn er mwyn gwarchod eu plant rhag dirmyg gan bobl o du allan i Gymru.

Ond, ydy hyn yn rhywbeth y dylwn ni fod yn poeni amdano? Drwy fy holl fywyd mae Saeson (yn fwy aml na thrigolion gwledydd eraill) wedi bod yn cam-ynganu a cham-sillafu fy enw cyntaf, ond ddaru hynny erioed wneud unrhyw niwed i mi. Ydy o’n iach i’r iaith ein bod ni’n caniatáu ieithoedd allanol i ddylanwadu ar ein hiaith ni?

Pam bod rhaid i’n henwau ni fod yn addas i dafod person di-Gymraeg beth bynnag? Mae hyn yn enghraifft o fod efo cywilydd yn yr iaith ac yn ceisio’i chuddio rhag y rhai sydd tu allan iddi. Er mwyn i’n hiaith barhau, mae’n bwysig ein bod ni’n newid ein hagwedd tuag ati, i un o hyder. Does dim rheswm i ni fod yn plygu ein hiaith i blesio pobl di-Gymraeg. Yn hytrach na hyn, fe ddylem ni fod yn ymbweru’n plant i ddelio efo dirmyg o unrhyw fath, a’u grymuso i ddeall mai problem pobl eraill ydyw os nad ydynt yn medru ynganu’r enwau.

Dim ond anghenion ieithyddol Cymru y dylem ni fod yn gofalu amdanynt. Mae gan Loegr a gwledydd eraill ddigon o bobl i ofalu am eu hanghenion ieithyddol hwy.

“Dechrau bob sgwrs yn Gymraeg”… cyn belled â’u bod nhw’r un lliw croen â ni

Dro ar ôl tro rwy’n ei weld o’n digwydd – person Cymraeg iaith gyntaf, sy’n coelio yn y mantra “dechreuwch bob sgwrs yn Gymraeg”, ac yn ei weithredu fel rheol – ond y munud y maen nhw’n siarad gyda rhywun sydd â lliw croen gwahanol, maent yn dechrau’r sgwrs yn Saesneg.

Rŵan, hiliol yw’r unig air i ddisgrifio hyn. A buaswn i’n tybio ei fod yn digwydd ar bron bob achlysur.

Dwi’n deall sut mae hyn yn digwydd. Yn gyffredinol, rydych yn teimlo cywilydd mewn sefyllfa pan rydych yn gorfod newid o Saesneg i’r Gymraeg gan fod y person arall ddim yn eich deall, ac felly rydych yn ceisio lleihau digwyddiadau fel hyn. Gwir, mae niferoedd siaradwyr Cymraeg ymysg lleiafrifoedd ethnig yn isel iawn, ond dylech chi ddim defnyddio hyn er mwyn eu trin yn wahanol i bobl croenwyn. Heb sôn am y ffaith eich bod yn gwadu’r bobl yma’r cyfle o gymryd rhan yn yr iaith.

Yng Nghaernarfon, er enghraifft, mae pob aelod o leiafrif ethnig sydd wedi bod drwy ysgolion yr ardal yn rhugl yn y Gymraeg – boed yn enedigol i deulu o Tsieina, Gwlad Thai, Pakistan, India, neu un o wledydd Affrica.  A mae’r rhai sydd heb gael eu geni yma, ond wedi bod yma ddigon hir, hefyd yn rhugl.

Ond, sut bynnag, mae “dechreuwch bob sgwrs yn Gymraeg” yn golygu pob sgwrs, nid yn unig ar adegau pan ‘rydych yn meddwl bod y person arall yn mynd i’ch deall chi. Pwynt y dywediad yw lledaenu’r Gymraeg, nid i bobl weithredu proffilio cymdeithasol ar bobl eraill. Mewn rhywle fel Caerdydd, bydd y canran siaradwyr yn dipyn llai wrth gwrs, ond does gennym ni ddim yr hawl i ddefnyddio’r ffaith hwn er mwyn gwneud rhagfarnau ar bobl yn seiliedig ar liw eu croen, achos dyna yw union ddifiniad hiliaeth.

Felly os ydych chi’n coelio mewn cychwyn bob sgwrs yn Gymraeg, meddyliwch y tro nesa’r ydych yn cychwyn sgwrs â pherson o dras arall ar y stryd neu mewn siop. Cychwynnwch hi yn Gymraeg.

Beth yw iaith swyddogol? – Y ddadl yn erbyn bratiaith, Rhan 2

Mae nifer o bobl yn amddiffyn eu hiaith lafar fratiog drwy ddadlau…

“Dydi o ddim bwys sut dwi’n siarad efo fy ffrindiau, achos mae fy Nghymraeg swyddogol i’n iawn, os dwi’n sgwennu llythyr neu draethawd neu rywbeth.”

Ysywaeth, y gwrthwyneb i hyn sydd yn wir. Iaith lafar, iaith y werin, yw’r hyn sy’n cael ei phasio i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth – nid iaith y Llywodraeth. Iaith lafar yw’r hyn sy’n dylanwadu ar ba eirfa y mae rhywun yn dewis ei siarad â phobl eraill – nid iaith gwefannau newyddion Cymraeg. Er mwyn i iaith fod yn iaith fyw mae rhaid iddi fod yn iaith gymdeithasol. Siarad ymysg cyfeillion a theulu sy’n cadw’r iaith i fynd – nid teipio i mewn i brosesydd geiriau mewn swyddfa.

Nid yw defnydd swyddogol yr iaith yn berthnasol i’r ddadl am ei pharhad – amlygir hyn yn y ffaith mai dim ond peth diweddar iawn yw statws swyddogol yr iaith Gymraeg. Saesneg sydd wedi bod yn iaith swyddogol a gweinyddol y wlad ers cannoedd o flynyddoedd, ond mae’r Gymraeg wedi goroesi hyd yma, a’r cyfan oherwydd ei rym fel iaith gymdeithasol.

Enghraifft arall berthnasol wrth gwrs yw Lladin, a fuodd yn iaith weinyddol, seciwlar ac ysgolheigaidd dros ran fawr o Ewrop am ganrifoedd wedi marwolaeth ei defnydd fel iaith gymdeithasol. Os nad ydym ni’n ofalus bydd y Gymraeg yn dilyn yr un trywydd, ble mae’r Llywodraeth yn ei defnyddio ochr yn ochr â’r Saesneg, ond neb o’r werin yn ei siarad.

Annoeth fuasai meddwl bod mabwysiad diweddar yr iaith Gymraeg gan y wladwriaeth yn ddatrysiad i’n holl broblemau, ac yna peidio â rhoi gymaint o ymdrech i mewn ar yr ochr gymdeithasol.

Wrth glywed iaith lafar sâl gan bobl sydd ag iaith swyddogol dda, dwi’n gweld meddylfryd yr iard chwarae wrth waith yma – y teimlad o fod y tu allan i ddosbarthiadau’r ysgol, ac felly’n cael gwneud be bynnag a fynnir, a siarad sut bynnag a fynnir. Ydy hyn yn arddangos parch tuag at yr iaith? Sut ydych yn disgwyl i’r iaith oroesi os nad oes gan yw ei siaradwyr yn ei pharchu? Wrth gwrs, mae gan rywun yr hawl i siarad sut a fynnan, ond mae angen sylweddoli mai rhagrith yw gofidio dros yr iaith tra ar yr un pryd ei afradu.

Medrwn ni ddim yn dibynnu ar y wladwriaeth i gadw fflam yr iaith yn fyw. Er mwyn gochel Saesnigiad pellach o’r iaith, mae cyfrifoldeb arnom i basio i lawr i’n cenedlaethau nesaf y Gymraeg buraf sy’n rhesymol i ni ei siarad, a dim llai na hynny. Os ydy crebachiad ein geirfa Cymraeg yn parhau ar yr un raddfa â’r degawdau diwethaf, cyn pen dim nid Cymraeg fydd hi, ond rhyw fersiwn Cymreig o’r Saesneg.

Felly, os ‘rydym ni’n meddwl bod cynnal iaith swyddogol dda yn helpu’r iaith, ac felly bod hynny’n ein rhyddhau ni o’n cyfrifoldeb o ddefnyddio iaith lafar dda, yna ‘rydym ni’n gwneud camsyniad angheuol.

Ni châi cywirdeb gwlediyddol danseilio’n iaith

Rwyf wedi clywed un neu ddau yn ddiweddar yn honni bod enwau galwedigaethau benywaith, megis athrawes, awdures, plismones, a.y.b., yn cael eu diddymu, ac y dylid cyfeirio atynt oll o hyn ymlaen – dyn neu ddynes – fel athro, awdur, plismon, a.y.b.

Wel am hen lol wirion. Dywedwch wrthaf, sut bod cael un gair i ddisgrifio person, yn lle dau, yn fwy cywir? Mae gennym ni ddigon o bethau negyddol sy’n siapio’n iaith ni er gwaeth, heb sôn am gywirdeb gwleidyddol i wneud hynny hefyd. Dydi o ddim syndod i mi bod cywirdeb gwleidyddol wedi gafael mor dynn yn Lloegr, ond roeddwn i wir yn meddwl ein bod ni’r Cymry’n gallach na hynny.

Ond yn ogystal â ffolineb yr holl syniad, mae cyflawni hyn yn ieithyddol amhosib yn yr iaith Gymraeg beth bynnag, achos mae holl enwau’r iaith yn perthyn i genedl ramadegol – gwryw neu benyw. Yn defnyddio’r enghreifftiau uchod, mae athro, awdur a plismon i gyd yn eiriau sy’n ramadegol wrywaidd.

Golyga hyn felly, drwy ddilyn rheolau cywirdeb gwleidyddol, y bydda tair merch sy’n dysgu plant yn cael eu cyfeirio fel tri athro. Pa synnwyr sydd mewn hynny?

A does dim newid ar hynny chwaith – maen nhw felly am reswm, nid oherwydd mai swydd dyn yw dysgu plant, ond oherwydd mai rheolau gramadegol geiriau gwrywaidd (digwydd bod, yn yr achos yma) yw’r rhai sy’n fwyaf addas i’r gair athro. A bydda tair athro ddim yn neud unrhyw synnwyr, wrth gwrs.

Ond eto, mae bydwraig yn aros fel ag y mae o – does neb yn sôn am gysoni’r term hwnnw a’i alw’n bydwr nagoes? Mae hyn yn edrych fel rhywiaeth i mi – ble mae’r cywirdeb gwlediyddol rŵan?

Y pwynt dwi’n trio’i wneud ydy nad yw’r rhai sy’n penderfynu ar y “cywirdeb gwleidyddol” hyn yn meddwl pethau drwodd yn iawn, ac y dylem ni eu rhwystro rhag effeithio’r iaith yn fympwyol fel hyn. Mae’r iaith wedi datblygu dros ganrifoedd, ac mae rheswm pam bod pethau fel ag y mae nhw heddiw (yn deillio yn bennaf o beth sydd decaf i’r glust). Dylid rhoi terfyn ar hyn y munud ‘ma, neu peryglu sylfaeni ei hiaith.

P’un bynnag, dwi ddim yn gweld y budd mewn homogeneiddio dynion a merched – dylem glodfori’r gwahaniaethau rhwng merched a dynion – nid ceisio’u cuddio.

Does dim gwahaniaeth rhwng twf bratiaith a marwolaeth iaith – Y ddadl yn erbyn bratiaith, Rhan 1

Wrth drafod defnydd o’r Gymraeg yn ein cymdeithasau, mae dwy ddadl yn codi eu pennau’n aml – bod niferoedd siaradwyr yn lleihau, a bod safon yr iaith yn lleihau ac yn mynd yn fwy bratiog. I mi, does dim gwahaniaeth rhwng y ddwy ddadl – y cwbl ydynt yw dau bwynt gwahanol o’r un broses, dau gam gwahanol mewn difodiant yr iaith mewn cymuned. Rwyf wedi profi llithriad yr iaith mewn nifer o gymunedau – nifer o gymunedau sydd ar bwynt gwahanol o’r broses, ac mae trefn y broses yn glir.

I gychwyn, mae trigolion y gymuned, sy’n ymwybodol iawn o’r geiriau Cymraeg am bethau, yn cyflwyno bratiaith mewn cyd-destunau cymdeithasol, ac yn ffafrio’r geiriau Saesneg ar draul y geiriau Cymraeg hir-sefydledig rheiny – geiriau a dywediadau Saesneg yn dod i mewn i’r iaith (hyn wedi digwydd ym mhobman eisoes, yn anffodus).

Wedyn, cyn pen dim, daw brawddegau cyfan o Saesneg i mewn i Gymraeg bob dydd rhai o’r trigolion, wedi eu plethu â’r brawddegau Cymraeg (mae Pwllheli, o bob man, eisoes yn y cyfnod yma).

Y cam nesaf yw bod rhai grwpiau o ffrindiau, er bod pawb yn siarad Cymraeg, yn penderfynu siarad Saesneg â’i gilydd (Bethesda, Llanrwst – mae hyn yn oed Caernarfon yn dechrau gwneud hyn).

Ac wrth gwrs, y cam nesaf yw bod cariadon sy’n siarad Saesneg â’i gilydd yn magu plant yn ddi-Gymraeg. Mae’r plant rheiny’n methu’r cyfle i siarad Cymraeg ar yr aelwyd. A phan dyfent i fod yn blant a phobl ifainc, bydd dim Cymraeg cymdeithasol ganddynt chwaith, gan y bydd eu holl ffrindiau wedi methu’r cyfle i siarad Cymraeg ar yr aelwyd hefyd, ac felly’n siarad Saesneg â’i gilydd.

Yna mae’r Gymraeg yn marw yn y gymuned honno.

Mae’r uchod i gyd yn gamau olynol o’r un dirywiad, a dim ond ychydig o flynyddoedd (llai na chenhedlaeth, dybiwn i) sydd rhwng pob cam. Bratiaith yw cam cyntaf y gadwyn.

Pob tro ‘rydych yn gwybod gair Cymraeg am rhywbeth, a bod y gair hwnnw yn air ‘bob dydd’, a’ch bod yn defnyddio gair Saesneg yn ei le, rydych yn cyfrannu at y gadwyn yma.

Ydych chi’n fodlon gyda hyn?

Diddymwn yr enw “Wales”

Rydw i o’r farn y dylem ymdrechu i ddileu’r gair Wales o’n hymwybod – hyd yn oed wrth siarad Saesneg. Does dim ei angen, ac yn fwy na hynny mae’n amharchus tuag at ein gwlad a’n pobl. I’r rhai sydd ddim yn gwybod, mae’r gair Wales yn dod allan o hen air y Sacsoniaid – Walia – sy’n golygu y nhw neu yr estronwyr. Walia yw’r gair a ddefnyddiodd y Sacsoniaid i gyfeirio atom ni pan ddaethent hwy drosodd i’r ynys y tro cyntaf, cyn iddyn nhw orchfygu’r Celtiaid, ac ar ôl hynny hefyd.

Rŵan, pam ar wyneb y ddaear y bydden ni’n fodlon i’r gair yma barhau i gael ei ddefnyddio – heb sôn am ei ddefnyddio ein hunain? Mae nifer o bobloedd eraill wedi sefyll i fyny a chyhoeddi bod yr enw a roddwyd arnynt bellach yn sarhaus – Indiaid Cochion, Eskimo, Oriental, Gipsy  – felly pam bod hynny ddim yn opsiwn i ni hefyd?  Onid ydym ni’n haeddu’r un parch a’r un gydnabyddiaeth hanesyddol?

Does dim o gwbl i’n rhwystro ni rhag newid yr hyn ydym ni’n galw’n gwlad – yr unig beth sy’n ein rhwystro ni yw ni’n hunain. Mae nifer o leoedd eraill dros y byd wedi newid eu henwau am resymau tebyg…

Sri Lanka – Ym 1948 newidiodd y wlad a elwid bryd hynny yn Ceylon ei henw, i Sri Lanka. Ceylon oedd Saesingiad o’r enw Celião, sef yr enw a roddodd y gwladychiaethwyr Portiwgaleg ar y lle yn y 16eg ganrif. Felly does dim rhyfedd eu bod hwy eisiau cael gwared â Ceylon er mwyn symud ymlaen o’u gorffennol trefedigaethol.

Mumbai – Stori eithaf tebyg sydd i drigolion Mumbai, a benderfynodd ym 1995 i gael gwared â’r enw Bombay gan mai enw Saesneg ydyw, ac yn olion nas dymunir o deyrnasiad Prydeinig.

Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo – Yn dilyn cwymp yr unben Mobutu Sese Seko yn y rhyfel cartref yn 1996, newidwyd enw’r wlad o Zaïre i Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Ymddengys bod y gwledydd a’r dinasoedd uchod yn medru symud ymlaen o’u hanes gwladychiaethol, felly pam na allwn ni? Nid yw Cymru’n rhydd, wrth gwrs, ond pam na allwn ni ymddwyn fel ei bod hi?

Dylen ni stopio defnyddio’r gair Wales yn gyfan gwbl. Ac os oes rhywun yn dweud bod Cymru yn rhy debyg i Cumbria i’w ddefnyddio mewn sgwrs Saesneg, wel felly pia hi. Rwy’n rhagweld y bydd nifer o’r darllenwyr yn ofni y bydd pobl yn edrych yn wirion arnynt am newid. Ond beth sydd wirionaf – rhywun sy’n galw ei hunain yn estronwr yn eu gwlad eu hunain, ynteu rywun sy’n defnyddio’r gair cywir am enw’r wlad?

Bydd eraill yn poeni na fydd pobl y tu allan i Gymru yn deall ystyr y gair, ond bosib y cewch chi’ch synnu. Ac mae posib y dewch i ganfod nad yw’r achosion bychain rhain yn ddigon i beidio â newid, achos digon hawdd yw dweud Wales os ydynt yn edrych yn syn.  O leiaf wedyn mae’r gair Cymru, a’i hiaith a’i hanes, yn cael ei ledaenu. Mae’n hen bryd i ni roi’r gorau i fod â chywilydd o’n hiaith a gwneud esgusodion drosto.

Peidiwch a meddalu’ch sŵn “R” wrth siarad Saesneg

Yn aml rwy’n tristáu wrth glywed Cymry Cymraeg iaith gyntaf yn rhoddi acen Saesnig ymlaen wrth siarad Saesneg. Yn y Gymraeg siaradent gydag acen naturiol, frodorol, ond unwaith y trosir i’r Saesneg, daw acen Saesnig gydag ef – meddalu’r llythyren R, newid ar ba sillaf o’r gair y mae’r pwyslais, newid rhythm y frawddeg yn debycach i berson di-Gymraeg. Amcanwn fod 4 allan o bob 5 o Gymry Cymraeg iaith gyntaf yn gwneud hyn.

Wrth gwrs un ffactor yn hyn yw’r ffaith ein bod ni’n genedl o dynwyr coesau, ac felly mae bellach yn rhan o’n diwylliant i ddefnyddio cellwair yn erbyn pobl sy’n siarad Saesneg gydag acen Gymraeg cref. Pam ein bod ni’n tynnu ar ein gilydd am hyn, o bopeth? Allwch chi ddychmygu gŵr o Lerpwl yn tynnu coes un arall am fod ganddo acen rhy “Scouse”? Medra i ddim. Allwch chi ddychmygu’r gŵr hwnnw’n gwatwar ei ffrind gan ei fod yn gwneud sŵn “ch” (fel sy’n arferol yn Lerpwl) yn lle sŵn “c”? Felly os all brodorion Lerpwl bod yn falch ac yn ddiysgog am y ffordd y siaradent Saesneg, pam na allwn ni?

Hoffwn i chi holi’ch hunan, ac ystyried os ydych chi yn un o’r pedwar allan o bum person sydd wedi Seisnigo rhywfaint ar eich acen wrth siarad Saesneg. Buasai’n ddiddorol deall beth yw’r cymhelliad dros wneud hyn. Ydych chi’n gwneud hyn…

…er mwyn i bobl Saesneg fedru’ch deall chi’n well?

Os felly, pam mai chi sydd yn gorfod newid? Pam na allwn ni lynu at ein hacenion, a gadael i bobl eraill ddod i ddysgu sut i’n deall ni? Byddai hynny’n addysgu pobl Lloegr bod acenion lu yn bodoli yng Nghymru, ac nad pawb sy’n swnio fel Tom Jones neu Cerys Matthews! Mae hyn yn wir yng Ngogledd Orllewin Cymru yn enwedig. Gan fod y rhan fwyaf o’i frodorion yn Seisnigo’u hacen yn y modd yma, mae’n beth prin i Sais glywed yr acen honno, felly’r rhan fwyaf o’r amser pan mae Cymry o’r Gogledd Orllewin yn teithio tu allan i Gymru mae pobl yn meddwl mai Albanaidd ydynt.

…oherwydd eich bod yn ceisio bod yn gywir, ac mai siarad Saesneg efo acen Saesnig yw’r peth cywir i wneud?

Er mai yn Lloegr y dechreuodd yr hyn a elwir heddiw yn iaith Saesneg, mae nifer o wledydd y byd yn siarad Saesneg fel iaith swyddogol – yr oll ohonynt a’u hacenion eu hunain. Cymerwch Dde Affrica? Mae eu hacen hwythau’n dra gwahanol i “Saesneg y Frenhines” hefyd, yn bennaf oherwydd y gwahaniaeth mawr yn y ffordd y maent yn ynganu eu llafariaid. Fedrwch chi ddychmygu pobl o Dde Affrica yn sylweddoli bod ganddyn nhw acen gref ac felly’n gwneud ymdrech i newid eu hacen i swnio fel pobl sy’n dod o Loegr? Yn union, felly pam bod gymaint o siaradwyr Cymraeg yn gwneud hyn?

…oherwydd ei fod o “wedi digwydd” heb i chi sylweddoli, ac oherwydd eich bod wedi treulio llawer o amser yn siarad Saesneg, yn eich gwaith, er enghraifft?

Os ydych chi wedi caniatáu i rywbeth ddylanwadu cymaint ar eich acen, pam felly nad ydyw mor hawdd i ddylanwadu ar eich hoff dîm pel-droed, neu ar eich chwaeth gerddorol, er enghraifft? Ymddengys bod rhai o’n rhinweddau yno am byth, tra mae eraill yn fwy hydraul.

Mae’n bwysig i ni sylweddoli bod gan wneud hyn oblygiadau niweidiol i’r iaith Gymraeg. Pan fydd person di-Gymraeg yn cymharu acenion dau berson Cymraeg yn siarad Saesneg – un gydag acen gref a’r llall wedi Seisnigo ei acen – pa un o’r ddau ydych chi’n meddwl sy’n swnio fwyaf brwd dros ei iaith, ei gynefin a’i bobl – a pha un sy’n ymddangos i fod â chywilydd o’r uchod, a’i fod yn ceisio cuddio pwy ydyw o’r herwydd? Os ydym ni eisiau i bobl ddysgu’r iaith, y peth lleiaf allwn ni ei wneud yw dangos iddynt ein bod ni’n falch ohoni a bod rheswm da dros ei ddysgu. Mae acen ac iaith yn annatod – mae cywilydd yn un yn awgrymu cywilydd yn y llall.

Tweet-io? Neu Drydar? Pa un fyddech chi’n ei wneud?

Mae wedi dod i fy sylw bod y rhan fwyaf o bobl Cymraeg sy’n defnyddio Twitter yn defnyddio’r termau Saesneg wrth ei drafod. Pam?

Mae rhai yn dadlau nad yw’n iawn i gyfieithu’r termau rhain oherwydd dyfeisiwyd hwy gan gwmni Saesneg, o’r Unol Daleithiau. Mae’n wir dweud na fedrir cyfieithu enw’r cwmni na’r gwasanaeth – achos twitter.com mae rhywun yn pori ato, nid trydar.com, a buasai cyfieithu hwnnw yr un peth a chyfieithu Microsoft i Meicrofeddal! Ond, dydi hyn ddim yn golygu na ellid cyfieithu’r termau eraill ynglŷn â defnydd y gwasanaeth, megis to tweet, to retweet, a tweet, a retweet, a.y.b. I’r gwrthwyneb, mae tweet yn air bob dydd, a dydi gosod y rhagddodiad re- o’i flaen ddim yn ei wneud yn air arbennig na ellid ei gyfieithu.

Mae hyn yn wahanol i Facebook, ble mae to facebook wedi dod yn ferf yn ei hun, neu facebookio wrth siarad Cymraeg. Nid fuasai’n gweithio i ddweud gweplyfru, achos mae to facebook yn ferf hollol unigryw i’r gwasanaeth hwnnw. Er dweud hyn, buaswn i hapus iawn o weld ffyniaint defnydd gweplyfru.

Ond yn ôl at Twitter, mae tweet yn ferf ac yn enw sydd yn bodoli eisoes, felly mae gennym ni berffaith hawl i’w gyfieithu – a’i gyfieithu a wnawn! Mae peidio â gwneud hynny gyfystyr â chyfaddef mai dim ond drwy gyfrwng y Saesneg y gellid defnyddio’r gymhariaeth gyda’r adar bach yn trydar. Ond siwr iawn, mae’r ddelweddaeth honno’n gweithio mewn unrhyw iaith. Onid dyna yw pwynt delweddaeth, ei fod yn rhydd o gyfyngiadau ieithyddol?

Does gen i ddim amheuaeth y bydd y genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio trydar, ail-drydar, a.y.b., ond pam ein bod ni’n dibynnu arnyn nhw i gymreigio’r geirfa? Pam na allwn ni wneud hyn rwan?

Wrth sgwennu post electronig i rywun, e-mail oedd rhywun yn ei yrru pan oeddwn i’n iau – doedd dim ffasiwn beth ag e-bost bryd hynny. Erbyn heddiw, mae dweud e-bost yn llawer mwy naturiol i mi na dweud e-mail, er i mi gael blynyddoedd o ddweud y gair Saesneg cyn newid. Felly mae’n ddigon rhwydd i newid – yr unig beth sydd angen er mwyn gwneud hynny yw sylweddoli bod y rhyngrwyd yn prysur wladychu cymdeithas, ac os nad ydym ni’n cymreigio’r rhyngrwyd, does gennym ni ddim gobaith o gymreigio cymdeithas.

Ôl-nodyn i hyn yw’r term Twitter to follow. Wyddwn i ddim am unrhyw berson Cymraeg yn y wlad a fydda’n dweud follow-io – mae pawb yn dweud dilyn. Mae dilyn yn air bob dydd, efo mwy nag un defnydd – yr un peth â trydar. Ond mae pobl wedi arfer dweud dilyn. Felly mae hyn yn profi nad gwrthwynebiad moesol dros gyfieithu termau Twitter yw sail y ddadl yma mewn gwirionedd, ond pobl sy’n ofn defnyddio geiriau nad yw llawer o bobl (ar hyn o bryd) yn eu defnyddio – ofn arloesi – ac yn defnyddio moesau er mwyn cuddio hyn.

Dyma i chi grynodeb o’r termau i ni gael eu defnydddio:

Twitter (y cwmni, y wefan, y gwasanaeth) — Twitter

Twitter account — Cyfrif Twitter

To tweet / Tweeting — Trydar  [gyda llaw, mae ambell un yn defnyddio trydaru, ond mae hwn yn anghywir]

To retweet — Aildrydar

A tweet — Trydariad