Mae nifer o Gymry Cymraeg yn gweld bai ar y person Saesneg hwnnw a fudodd i Gymru 10 mlynedd yn ôl ond sydd dal ddim yn deall gair o’r iaith. Ond y gwir yw, mae llawer mwy o fai arnom ni fel Cymry Cymraeg nag arno ef. Y rheswm am hyn yw’r ffaith ein bod ni’n trio’n gorau i guddio’r iaith oddi wrth ddysgwyr, a pheidio â rhoi rheswm iddynt orfod dysgu. Llawer rhy hawdd yr ydym ni’n newid i’r Saesneg “achos ei fod yn haws” neu “rhag ofn pechu”, neu yn aml iawn oherwydd bod gennym ni Gymru “ddim amynedd” i siarad yn arafach efo rhywun a gorfod ail-adrodd ambell air.
Rydym yn byw mewn gwlad ble mae ei thrigolion yn mynd yn bobl prysurach a phrysurach bob munud, felly er mwyn ymroi i dasg mor enfawr â dysgu iaith, mae angen iddyn nhw deimlo bod rheswm iddynt wneud. Cymhelliad.
Ond beth am y ddihareb “dechreuwch bob sgwrs yn Gymraeg”? Ydy hwnnw’n gweithio? Os nad, ydy dehongliad pobl ohono yn gywir yn y Gymru sydd ohoni? Cymerwch yr enghraifft ganlynol.
Mae Wil, sy’n Gymraeg iaith gyntaf, yn cerdded i mewn i siop. Mae’r siopwr yn siarad Cymraeg yn iawn, ond Saesneg yw ei famiaith, ac rydym ni mewn ardal gyda llawer o fewnfudo, ac mae’n adeg o’r flwyddyn pryd mae llawer o ymwelwyr i’r ardal, felly mae’r siopwr yn gofyn yn Saesneg “hello, how can I help?”
Rŵan, mae’r sgwrs (yr un yr ydym i fod i gychwyn yn Gymraeg) wedi cychwyn yn barod, felly mae Wil yn parhau yn Saesneg, a dyma yw iaith y sgwrs tan ei diwedd.
Rydw i’n credu y dylai Wil fod wedi parhau i ddechrau ei ochr ei hun o’r sgwrs yn Gymraeg, ac wedi rhoi ei archeb i’r siopwr yn y Gymraeg. Achos dydi’r ffaith bod y siopwr wedi cychwyn yn y Saesneg ddim yn meddwl ei fod yn ddi-Gymraeg. Wedyn, buasai’r siopwr wedi ateb Wil yn Gymraeg, a byddai’r sgwrs i gyd wedi bod yn Gymraeg. A pe na fydda’r siopwr wedi deall Cymraeg, buasai’n datgan hynny, a buasai’n sgwrs yn parhau yn Saesneg – dim problem.
Felly, nid yn unig y mae angen dechrau sgwrs yn y Gymraeg os mai chi sydd yn siarad gyntaf – mae angen dechrau yn y Gymraeg hyd yn oed os yw’r person arall wedi dechrau yn Saesneg yn barod.
Fe af â hyn ymhellach, drwy ddweud mai dim ond yr hyn y mae’r person arall yn ei ddeall a ddylai benderfynu pa iaith rydych yn siarad â hwy – nid yr hyn y maent yn siarad. Hynny yw, os ydych yn siarad Cymraeg â rhywun, ac maent yn deall yn iawn beth a ddywedasoch – ond yn eich ateb yn Saesneg – yna pam bod angen i chi newid i’r Saesneg? Does dim rhaid i chi’ch dau fod yn siarad yr un iaith, nac oes? Parhewch chi i siarad yn Gymraeg, ac fe gaiff y person arall barhau i siarad Saesneg. O leiaf wedyn bydd hanner y sgwrs yn y Gymraeg. Gwell na bod dim o’r iaith o gwbl yn cael ei siarad.
Er mwyn ceisio osgoi’r “cywilydd” o ddechrau sgwrs Gymraeg gyda rhywun sydd yn ddi-Gymraeg, rydym ni’n tueddu i gychwyn sgyrsiau’n Saesneg os ydym yn meddwl mai di-Gymraeg yw’r person arall. Ond drwy wneud hyn rydym ni wedyn yn dylanwadu ar benderfyniadau pobl eraill o ba iaith i’w defnyddio. Mae hyn yn gylch dieflig sydd angen ei dorri.
Flynyddoedd yn ôl, roedd yn haws dweud os yw’r siopwr yn siaradwr Cymraeg, achos roedd bron i bawb unai’n Gymro o’r aelwyd, neu yn fewnfudwr. Felly buasai’n hawdd clywed acen Gymraeg yn llais Saesneg y siopwr, a newid i’r Gymraeg yn sgil hyn. Ond erbyn heddiw mae’r llinell yn llawer iawn anoddach i’w diffinio, ac mae acenion Cymry Cymraeg wrth siarad Saesneg yn medru bod yn ofnadwy o Saesnig weithiau. Felly mae angen i ni chwilio’n galetach am allu siarad Cymraeg mewn rhai pobl. A’r unig ffordd o wneud hyn yw rhoi brawddeg Cymraeg o’u blaen a gweld sut y maen nhw’n ymateb.