Peidiwch a meddalu’ch sŵn “R” wrth siarad Saesneg

Yn aml rwy’n tristáu wrth glywed Cymry Cymraeg iaith gyntaf yn rhoddi acen Saesnig ymlaen wrth siarad Saesneg. Yn y Gymraeg siaradent gydag acen naturiol, frodorol, ond unwaith y trosir i’r Saesneg, daw acen Saesnig gydag ef – meddalu’r llythyren R, newid ar ba sillaf o’r gair y mae’r pwyslais, newid rhythm y frawddeg yn debycach i berson di-Gymraeg. Amcanwn fod 4 allan o bob 5 o Gymry Cymraeg iaith gyntaf yn gwneud hyn.

Wrth gwrs un ffactor yn hyn yw’r ffaith ein bod ni’n genedl o dynwyr coesau, ac felly mae bellach yn rhan o’n diwylliant i ddefnyddio cellwair yn erbyn pobl sy’n siarad Saesneg gydag acen Gymraeg cref. Pam ein bod ni’n tynnu ar ein gilydd am hyn, o bopeth? Allwch chi ddychmygu gŵr o Lerpwl yn tynnu coes un arall am fod ganddo acen rhy “Scouse”? Medra i ddim. Allwch chi ddychmygu’r gŵr hwnnw’n gwatwar ei ffrind gan ei fod yn gwneud sŵn “ch” (fel sy’n arferol yn Lerpwl) yn lle sŵn “c”? Felly os all brodorion Lerpwl bod yn falch ac yn ddiysgog am y ffordd y siaradent Saesneg, pam na allwn ni?

Hoffwn i chi holi’ch hunan, ac ystyried os ydych chi yn un o’r pedwar allan o bum person sydd wedi Seisnigo rhywfaint ar eich acen wrth siarad Saesneg. Buasai’n ddiddorol deall beth yw’r cymhelliad dros wneud hyn. Ydych chi’n gwneud hyn…

…er mwyn i bobl Saesneg fedru’ch deall chi’n well?

Os felly, pam mai chi sydd yn gorfod newid? Pam na allwn ni lynu at ein hacenion, a gadael i bobl eraill ddod i ddysgu sut i’n deall ni? Byddai hynny’n addysgu pobl Lloegr bod acenion lu yn bodoli yng Nghymru, ac nad pawb sy’n swnio fel Tom Jones neu Cerys Matthews! Mae hyn yn wir yng Ngogledd Orllewin Cymru yn enwedig. Gan fod y rhan fwyaf o’i frodorion yn Seisnigo’u hacen yn y modd yma, mae’n beth prin i Sais glywed yr acen honno, felly’r rhan fwyaf o’r amser pan mae Cymry o’r Gogledd Orllewin yn teithio tu allan i Gymru mae pobl yn meddwl mai Albanaidd ydynt.

…oherwydd eich bod yn ceisio bod yn gywir, ac mai siarad Saesneg efo acen Saesnig yw’r peth cywir i wneud?

Er mai yn Lloegr y dechreuodd yr hyn a elwir heddiw yn iaith Saesneg, mae nifer o wledydd y byd yn siarad Saesneg fel iaith swyddogol – yr oll ohonynt a’u hacenion eu hunain. Cymerwch Dde Affrica? Mae eu hacen hwythau’n dra gwahanol i “Saesneg y Frenhines” hefyd, yn bennaf oherwydd y gwahaniaeth mawr yn y ffordd y maent yn ynganu eu llafariaid. Fedrwch chi ddychmygu pobl o Dde Affrica yn sylweddoli bod ganddyn nhw acen gref ac felly’n gwneud ymdrech i newid eu hacen i swnio fel pobl sy’n dod o Loegr? Yn union, felly pam bod gymaint o siaradwyr Cymraeg yn gwneud hyn?

…oherwydd ei fod o “wedi digwydd” heb i chi sylweddoli, ac oherwydd eich bod wedi treulio llawer o amser yn siarad Saesneg, yn eich gwaith, er enghraifft?

Os ydych chi wedi caniatáu i rywbeth ddylanwadu cymaint ar eich acen, pam felly nad ydyw mor hawdd i ddylanwadu ar eich hoff dîm pel-droed, neu ar eich chwaeth gerddorol, er enghraifft? Ymddengys bod rhai o’n rhinweddau yno am byth, tra mae eraill yn fwy hydraul.

Mae’n bwysig i ni sylweddoli bod gan wneud hyn oblygiadau niweidiol i’r iaith Gymraeg. Pan fydd person di-Gymraeg yn cymharu acenion dau berson Cymraeg yn siarad Saesneg – un gydag acen gref a’r llall wedi Seisnigo ei acen – pa un o’r ddau ydych chi’n meddwl sy’n swnio fwyaf brwd dros ei iaith, ei gynefin a’i bobl – a pha un sy’n ymddangos i fod â chywilydd o’r uchod, a’i fod yn ceisio cuddio pwy ydyw o’r herwydd? Os ydym ni eisiau i bobl ddysgu’r iaith, y peth lleiaf allwn ni ei wneud yw dangos iddynt ein bod ni’n falch ohoni a bod rheswm da dros ei ddysgu. Mae acen ac iaith yn annatod – mae cywilydd yn un yn awgrymu cywilydd yn y llall.

6 comments

  1. Cytunaf gant y cant! Fel Cymro a fagwyd ar aelwyd Saesneg nepell o gwm Rhondda, rwy’n ffeindio parodrwydd nifer o Gymry Cymraeg i Seisnigo eu hacenion yn hollol anghredadwy. Mi ddysgais yr heniaith yn yr ysgol ond mae’n weddol amlwg o fy acen fy mod i’n siarad y Gymraeg yn gyson. Mae acen gref Gymraeg yn swnio’n hudolus i mi!

    1. Dwi’n cytuno bod hyn hefyd yn broblem, ond problem gwahanol serch hynny, ac un sy’n perthyn iddyn nhw, felly un sydd dipyn anoddach i’w ddatrys, tybiaf.

  2. Hmmm, dwi’m yn siwr os ydw i erioed dod ar draws hyn. Gan amlaf, yn fy mhrofiad i, mae bobl Gogledd Orllewin Cymru yn siarad Saesneg efo acen yn debyg i un Lerpwl – mae’n amwlg bod acen Lerpwl wedi cael ei dylanwadu gan acen Gogeldd Cymru. Mewn ardaloedd fel Rhuthun a’r Gogledd Ddwyrain, ie, mae’m anodd dweud gan eu bod nhw’n swinio yr un peth a’r Sais ac mae’n rhaid gofyn os ydynt yn siarad Cymraeg. Yn ardal Ceredigion mae’n well gennyf eu bod yn siarad Saesneg achos eu bod mor anodd (nage, amhosib) eu deall yn eu Cymraeg! (Rhaid dwud fy mod i’n dod o ardal y Cardi yn wreiddiol, ond dysgais Cymraeg yn Ardudwy.) Mae gan pobl tre Caerfyrddin acen unigryw Saesneg sy’n perthyn i Gaerfyrddin ei hun, Saesneg clir iawn a ramadegol. Mae Cymraeg Caerfyrddin yn fater arall, ond rhaid i mi cyffesu rhywfaint o ragfarn, fel y cyfryw, dw i’m yn ffeindio acen neu tafodieithoedd Cymraeg y De yn ddeniadol o gwbl.

    Ers y 28 mlynedd diwethaf, dw i wedi bod yn byw yng Nghaerdydd, lle mae sawl acen, gan gynnwys yr acen unigryw Caerdydd. Ond mae acennau eraill hefyd, sy’n Cymreig iawn.

    Pan dwi’n siarad Saesneg, mae’n amlwg fy mod i’n swnio fel ‘Sais’ ond does neb yn Lloegr yn gallu fy lleoli. Mae bobl Gogeldd Loegr ym meddwl fy mod i’n dod o De Loegr, ac mae bobl De Loegr ym meddwl fy mod i’n dod o Ogledd Lloegr. Mewn gwirionedd, does gen i ddim acen o gwbl, wel dim un sy’n perthyn i unrhyw le. Ond yn bendant, dw i ddim yn swnio fel fy mod i’n siarad Cymraeg – sy’n defnyddiol weithiau.

    1. Diolch am eich ymateb.

      Gydag acenion Gogledd-Ddwyrain Cymru, mae hynny’n wahanol, achos dyna YDY acen yr ardal honno ynte – acen sydd digwydd bod â dylanwad o Lannau Merswy – mae hynny’n wir boed yn siarad Cymraeg neu Saesneg. Er, nid am hynny oeddwn i’n sôn yn fy mlogiad. Sôn oeddwn i am bobl sy’n siarad rhoddi acen Saesneg ymlaen sy’n fwy fel sut mae’r Saeson yn siarad, yn hytrach na sut mae eu pobl hwy’n siarad. Mae hyn yn digwydd am resymau hyder gan amlaf, tybiaf – ac felly sôn ydw i am bobl sydd ag acen wrth siarad Saesneg sy’n wahanol i’w hacen wrth siarad Cymraeg. Achos, er bod y ddwy yn iaith wahanol, yr un fath ydy’r acen ynde – oni bai bod rhywun yn ymgeisio i Saesnigo eu hacen Saesneg.

      Ond wrth gwrs, nid gweld bai ydw i yn fa’ma, ond ceisio gwneud pobl yn ymwybodol ohono er mwyn iddynt geisio arddangos mwy o falchder yn eu hacen gynhenid.

      Rwy’n hoff iawn o acen Gogledd-Ddwyrain Cymru, fel mae’n digwydd.

      Gwnaethoch bwynt da iawn pan y dywedoch “mae’n amlwg bod acen Lerpwl wedi cael ei dylanwadu gan acen Gogeldd Cymru.” Digon gwir – rydym ni i gyd yn ystyried dylanwad acen Lerpwl ar acen Gogledd Cymru (a minnau yn eu plith), ond does neb yn sôn am y dylanwad amlwg sydd wedi mynd y ffordd arall hefyd.

      Diolch yn fawr.

Gadael sylw